Mae cwmni trenau Virgin wedi ymddiheuro ar ôl i ymgynghorydd ar eu tudalen Twitter ddweud bod “Cymry Cymraeg yn gallu siarad Saesneg hefyd”, a chynnwys y Gymraeg ymhlith “ieithoedd eraill”.

Daeth y sarhad ar ôl i @SelFelin dynnu sylw at ddiffyg cyhoeddiadau dwyieithog ar drenau’r cwmni yng Nghymru.

Dywedodd wrth y cwmni nad oes “yr un gair o iaith fy ngwlad ar eich uchelseinyddion”.

Wrth ymateb, dywedodd yr ymgynghorydd ‘AL’ mai mater i gorff Trafnidiaeth Cymru yw cyhoeddiadau mewn gorsafoedd, gan ofyn ar ba drên roedd e’n teithio.

Eglurodd @SelFelin wedyn ei fod yn bwriadu teithio ar un o drenau’r cwmni yfory (dydd Iau), a’i fod yn “gwybod am ffaith y byddai’r cyhoeddiadau’n uniaith Saesneg”.

“Rwy’n ofni na allwn ddarparu cyhoeddiadau ym mhob iaith arall, felly gan fod Cymry Cymraeg yn gallu siarad Saesneg hefyd, Saesneg sydd fwyaf addas,” meddai AL wrth ymateb.

Ymddiheuriad

Mae @SelFelin wedi mynd ati wedyn i gynnwys Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts yn ei neges nesaf, gan ofyn iddi wneud datganiad ar y mater, cyn dweud wrth dudalen Twitter Comisiynydd y Gymraeg fod “hyn yn ofnadwy”.

Dywed ‘AL’ wedyn ei fod yn “deall y rhwystredigaeth”, ond “na fyddai’n deg” darparu negeseuon yn Gymraeg, ond nid mewn ieithoedd eraill hefyd.

Ar ôl i @SelFelin gyfeirio at statws y Gymraeg fel iaith swyddogol, ateba ‘AL’ drwy “ymddiheuro am gamddealltwriaeth”. Mae’r un neges wedi’i hailadrodd wrth ymateb i nifer o bobol eraill, gan gydnabod y dylai cyhoeddiadau Cymraeg fod ar gael ar drenau yng Nghymru.

Dywed AL sawl gwaith yn ystod y drafodaeth ei fod o’r farn fod yr ymholiad gwreiddiol yn gofyn am gyhoeddiadau Cymraeg ar drenau ledled gwledydd Prydain.