Mae’r actor o Bort Talbot, Robert Blythe wedi marw.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Fagin yng nghyfres gomedi BBC Cymru, High Hopes.

Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi poblogaidd, gan gynnwys Doctors, Midsummer Murders, The Royal, Casualty, The Brief, Little Britain, The Bill, Waking The Dead, Heartbeat, Dempsey and Makepeace, London’s Burning a’r operâu sebon, Coronation Street ac Eastenders.

Ond roedd hefyd yn adnabyddus ar lwyfannau theatre yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys nifer o ymddangosiadau i Theatr Clwyd a’r Theatr Genedlaethol Frenhinol.

Fe fu’n briod â’r ddiweddar actores Iola Gregory, ac roedd ganddyn nhw ddwy o ferched – yr actores, Rhian Blythe, a’r awdur a chynhyrchydd teledu, Angharad Blythe.

Roedd yn ŵr iNaomi Blythe, ac roedd ganddyn nhw ddau fab, Sam a Jack.