Fe fydd athrawon sy’n gweithio mewn colegau addysg bellach yn cael eu talu yr un faint ag athrawon chweched dosbarth mewn ysgolion, diolch i fuddsoddiad ychwanegol gwerth £8m.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe wnaethon nhw ddwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i ddyrannu £23.5m dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau cynnydd o 3.5% mewn cyflog i athrawon ym mis Medi.

Ond er mwyn sicrhau nad oes anghydraddoldeb rhwng athrawon mewn ysgolion a cholegau addysg bellach, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno’r buddsoddiad ychwanegol o £8m.

Bydd y swm hefyd, medden nhw, yn cyfrannu at gynnydd yng nghyflog staff cefnogi mewn colegau, gan fod rhai ohonyn nhw ar gyflog byw ar hyn o bryd.

“Rydw i wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig y cymorth ychwanegol hwn i’r sector Addysg Bellach tuag at gostau cyflogau am y ddwy flynedd nesaf,” meddai Kirsty Williams.

“Rydyn ni’n cydnabod bod Colegau’n delio ag amgylchiadau eithriadol ac y bydd yr hwb ariannol ychwanegol hwn yn caniatáu amser i golegau gyllidebu tuag at gostau cyflogau yn y dyfodol.”