Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi cael ei gwahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd, wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i sylwadau a wnaeth am Iddewon.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ymddiheurodd Jenny Rathbone, sy’n cynrychioli Canol Caerdydd, ar ôl i recordiad ohoni’n gwneud sylwadau beirniadol am y gymuned Iddewig ddod i’r fei.

Yn y recordiad o fis Tachwedd y llynedd, lle mae’n ymateb i gamau diogelwch synagog yng Nghaerdydd, mae’n dweud fod ymddygiad Israel “yn gyrru pobol i fod yn wrthwynebus tuag at y gymuned Iddewig”.

Aeth hefyd ymlaen i awgrymu bod troseddau gwrth-Semitaidd “ym mhennau” yr Iddewon yn unig.

Cafodd y sylwadau hyn eu beirniadu’n hallt yr wythnos ddiwethaf, gyda’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mohammad Asghar, yn eu disgrifio’n “ffwrdd-â-hi” ac “anwybodus”.