Yr heddlu’n ymchwilio i achos o drosedd casineb ar fws yn y dre

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i fachgen ifanc gael ei anafu gan ddynes ar fws yn y Barri.

Yn ôl yr heddlu, roedd y bachgen a’i fam yn teithio ar fws a oedd yn teithio o’r dref ddoe (Tachwedd 19) pan ddaeth dyn a dynes atyn nhw gan ofyn a oedden nhw’n Gymry.

Mae’n debyg bod y fam wedi ymateb trwy ddweud ei bod hi wedi cael ei geni yn Israel, cyn i’r ddynes daro ei mab yn ei wyneb a gafael ynddo ger ei geg.

Fe lwyddodd y dyn a’r ddynes i ddianc y bws ar ôl iddo stopio, ac fe gafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty.

Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i’r ymosodiad a’r achos o drosedd casineb.