Mae Trafnidiaeth Cymru, sydd yn rhedeg gwasanaethau trên yng Nghymru ers mis yn unig, wedi cyhoeddi bod 36 allan o 127 o’u trenau allan o wasanaeth oherwydd gwaith trwsio.
Daw’r newyddion wrth iddyn nhw ymddiheuro i gwsmeriaid Cymru “sy’n haeddu gwell” wasanaethau trên yn y wlad.
Dywedodd y cwmni eu body n cynnal gwaith trwsio oherwydd bod dail wedi achosi niwed i’r trenau yn ystod Storm Callum.
Mae bysiau wedi gorfod cael eu defnyddio heddiw i redeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno oherwydd hyn, tra bod llai o wasanaeth ar waith rhwng Wrecsam a Bidston.
“Heb dderbyn gwasanaeth haeddiannol”
Mewn hysbyseb yn y Daily Post heddiw, cyhoeddodd Rick Davey – prif swyddog gweithredoedd Trafnidiaeth Cymru, ac Alison Thompson – prif swyddog gweitredu Network Rail, eu bod yn ymddiheuro ar y cyd.
“Rydym yn gwybod bod gorlenwi ac ansicrwydd yn her fawr i bobol, ac rydyn ni’n ymddiheuro nad ydych wedi derbyn y gwasanaeth rydych yn haeddu a’i ddisgwyl.”