Fe fydd deiseb sydd wedi cael ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol a’i chyflwyno gan rieni ysgol gynradd ym Môn, yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 20).

Fe gyflwynodd rieni Ysgol Bodffordd y ddeiseb i’r Senedd ym Mae Caerdydd dros yr haf, ac mae’n galw ar gynghorau lleol i barchu’r Côd Trefniadaeth Ysgolion.

Daeth y cod hwnnw i rym ddechrau’r mis, ac maen cynnwys canllawiau a fydd yn gwneud cau ysgolion cynradd yn ‘opsiwn olaf’.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â rhieni Ysgol Bodffordd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos yn eglur sut y bydd y polisi newydd byth yn cael ei weithredu, wrth i Gyngor Ynys Môn barhau â’i gynlluniau i gau’r ysgol wledig.

Protest

Bydd protest yn cael ei chynnal ym mhencadlys Cyngor Ynys Môn yn Llangefni yn ystod y dydd heddiw, tra bo’r ddeiseb yn cael ei thrafod mewn dadl ym Mae Caerdydd.

Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, dydy’r cyngor heb ystyried “opsiynau amgen” heblaw am gau’r ysgol, na chwaith ystyried yr effaith y bydd cau yn ei gael ar y gymuned leol.

Dywed hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag egluro sut y gall rhieni gwyno os nad yw cynghorau lleol yn cadw’n ffyddlon at y côd.

‘Angen eglurhad’

“Mae’r Ysgrifennydd Addysg, a’i rhagflaenydd, wedi datgan yn y Cynulliad y bydd dal gan rieni yr hawl i gwyno wrthi os na bydd Awdurdod Lleol yn cadw at ofynion y côd,” meddai Ffred Ffransis.

“Ond mewn tri o atebion e-bost at y Gymdeithas, mae hi wedi methu dweud sut a phryd yn union yn y broses y gall rhieni wneud cwyn o’r fath.

“Gobeithiaf y bydd yn dal ar gyfle’r ddadl yn y Senedd ddydd Mercher i egluro sut yn union y bydd y llywodraeth yn sicrhau y caiff y côd ei weithredu.”