Mae adroddiad newydd yn dangos bod bron i hanner y trydan a gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru y llynedd wedi dod o ynni adnewyddadwy.

Mae Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017 yn dangos bod yr hyn sy’n cyfateb i 48% o drydan y wlad o ynni adnewyddadwy – i fyny o 43% yn 2016.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod Cymru wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiodd, gan sicrhau bod trydan yn cael ei allforio i Loegr, Iwerddon a gwledydd yn Ewrop.

Yn ôl yr Ysgrifennydd tros yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, mae Cymru’n “camu’n nes” at ei tharged o sicrhau bod 70% o’r trydan y mae Cymru’n ei ddefnyddio yn dod o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

“Camau anferth ymlaen”

“A bron hanner y trydan a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ogystal â bod dros hanner ffordd ar gyrraedd ein targed o ran y capasiti trydan adnewyddadwy sydd mewn dwylo lleol, rydyn ni’n gweld fod y sector yn cymryd camau anferth ymlaen,” meddai.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weld ein system ynni’n newid yn gyflymach, yn enwedig trwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy.

“Ein blaenoriaeth yw defnyddio ynni’n fwy effeithiol, lleihau ein dibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil a gweithio’n galed i reoli’r newid i economi carbon isel er lles Cymru.”

Y ffigyrau

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod:

  • 22% o’r trydan a gafodd ei gynhyrchu yn dod o ffynonellau adnewyddadwy – i fyny 18% yn 2016;
  • Mwy na 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru;
  • Pŵer y gwynt yn cynhyrchu rhyw 66% o’r trydan adnewyddadwy yng Nghymru;
  • Cymru’n cynhyrchu tua 2.1 TWh o ynni adnewyddadwy, sy’n cyfateb i 10.5% o’r galw domestig am wres yng Nghymru;
  • 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yn eiddo i bobol leol