Fe fyddai Cymru’n sicr o gael cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi dan gynlluniau newydd sydd wedi eu cynnig gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, yr ERS.

Maen nhw’n dweud bod rhaid cael ail siambr sy’n cael ei hethol yn ddemocrataidd ac mai dyna’r ffordd I sicrhau bod Cymru, er enghraifft, yn cael ei chynrychioli’n deg.

“Byddai ail siambr sy’n cael ei ethol yn deg yn sicrhau bod cynrychiolaeth ar gyfer pobol Cymru. Ar y funud nid oes sicrwydd y dylai Cymru gael unrhyw gynrychiolaeth,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

“Colli’r pwynt”

Mae’r ERS wedi cyhoeddi adroddiad sy’n condemnio pwyllgor seneddol am fethu â mynd i’r afael â diwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Roedd cynigion Pwyllgor Gweinyddu Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin yn “annigonol” ac yn “colli’r pwynt”, meddai’r Gymdeithas.

Yn eu hadroddiad heddiw, mae’r Pwyllgor wedi pwyslesio’r angen am fwy o amrywiaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi, ynghyd â rhoi’r hawl i’r pleidiau ddewis hyn a hyn o gynrychiolwyr ar sail canlyniadau etholiadau cyffredinol.

Dyw hynny ddim yn datrys y broblem bod “cynrychiolaeth annigonol” o wledydd Prydain o fewn Tŷ’r Arglwyddi, meddai llefarydd y Gymdeithas wrth golwg360. Maen nhw’n galw am etholiadau cyfrannoll i ddewis 300 o aelodau i’r ail siambr.

“Tu hwnt i wirion”

“Mae pleidleiswyr yn haeddu democratiaeth 21ain ganrif, gyda Senedd wedi ei diwygio ac sy’n cynrychioli ynysoedd Prydain yn deg,” meddai Cyfarwyddwr Ymchwil yr ERS, Dr Jess Garland.d

“Mae’r syniad o barhau i gael ein rheoli gan arglwyddi ac esgobion yn y dyfodol y tu hwnt i fod yn wirion.”