Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i fwy na 30 o ieir gael eu gwenwyno mewn gardd gymunedol yng Nghwm Rhymni.

Yn ôl yr elusen, fe ddaeth perchennog yr ardd yn Nheras Tennyson, Brithdir, o hyd i’r ieir wedi marw ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Tachwedd 12).

Mae’n debyg bod yr adar wedi bod yn glafoeri’n drwm, ac roedd ôl gwaed ar eu cribau – arwydd clir eu bod wedi’u gwenwyno, yn ôl yr RSPCA.

Mae lle i gredu bod y gwenwyn wedi’i gymysgu gyda bwyd yr adar ar ryw bwynt.

“Canfyddiad erchyll”

“Yn amlwg mae marwolaeth yr adar hyn yn hollol amheus ac yn achosi anesmwythyd, ac rydym yn credu y byddai’r ieir wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i unrhyw wenwyn,” meddai David Milborrow, un o arolygwyr yr RSPCA.

“Mae yna dystiolaeth gadarn bod y gwenwyno yn weithred fwriadol, ac rydym yn galw ar y gymuned leol i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw.”