Mae un person mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân yn Acrefair ger Wrecsam.

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 18).

Cafodd yr unigolyn ei achub o’r adeilad, a’i gludo i’r ysbyty.

Mae ymchwiliad ar y gweill.