Mae un o glybiau enwocaf Caerdydd yn gobeithio cyflwyno “ton” newydd o gerddoriaeth Cymraeg i Loegr gyda digwyddiad arbennig ar ddiwedd y mis.

Ar Dachwedd 28, mi fydd Clwb Ifor Bach yn cynnal digwyddiad yng nghlwb y Lexington yn Llundain, gan rhoi lwyfan i bedwar band cyffrous o Gymru.

Yn ôl Steffan Dafydd, Swyddog Marchnata’r Clwb Cymreig, mae’r Cymry yn dueddol o beidio â denu sylw at ei hunain, ac mae’r gig yma yn gyfle gwych i wneud hynny.

“Mae’n bwysig showan pethe fel hyn off,” meddai wrth golwg360.

“Natur pobol Cymru yw bod yn dawel, a d’yn ni ddim yn hoffi bostio gormod am beth sy’n mynd ymlaen. D’yn ni ddim yn hoffi gwneud lot o ffwdan am bethe.

“Weithiau mae’n dod drosodd fel ein bod ni’n rhoi ein hunain mewn ogof – yn hytrach na rhoi ein hunain mas yna …

“Dw i’n meddwl ei fod yn naturiol i ni showan off beth mae Clwb yn gwneud, a’n bennaf, beth mae Cymru yn ei gynnig.”

Y dyfodol

Mae Steffan Dafydd yn dweud bod “popeth yn kickan off” yng Nghymru ar hyn o bryd, gydag artistiaid gan gynnwys Gweno a Boy Azooga yn raddol ennill bri rhyngwladol.

Ac mae’n credu y bydd y bandiau a fydd yn chwarae yn Llundain – Mellt, Names, Marged a Buzzard Buzzard Buzzard – yn medru “gwthio hynny ymhellach”.

Dyma fydd y gig gyntaf o’i fath i’w gael ei drefnu gan Clwb Ifor Bach, ac mae yna awydd i gynnal rhagor yn y dyfodol, meddai’r Swyddog Marchnata.

“Hoffwn ddatblygu hyn,” meddai. “Efallai bydd yna bach o trial and error, ond r’yn ni wir yn gobeithio gwneud mwy yn y flwyddyn newydd, a’u cynnal yn rheolaidd fel ein bod ni’n gallu constantly gwthio’r artistiaid newydd yma mas.”