Mae tref fach yn ne Powys wedi ennill gwobr Brydeinig am safon ei stryd fawr.

Crughywel yw’r dref fuddugol, ac yn ogystal ag ennill ‘Y Wobr Stryd Fawr Brydeinig’ mae perchennog siop o’r dref wedi ennill gwobr ‘Arwr y Stryd Fawr yng Nghymru’.

Yn ôl cynrychiolydd y dref ar Gyngor Sir Powys, mae ennill y wobr yn “gyrhaeddiad pwysig iawn i Grughywel”.

“Mae’n beth anhygoel,” meddai’r Cynghorydd John Morris wrth golwg360.

“Dim ond tref fechan ydyn ni. Rydym ni wrth ein bodd.

“Rydym wedi bod yn lwcus iawn. Dyw cwmnïau rhyngwladol heb gymryd drosodd yma. Yn rhannol oherwydd ein bod yn dref fechan.”

Cydweithio

Mae Emma Corfield Walters yn berchen ar siop Book-ish Crughywel, a hi yw enillydd gwobr ‘Arwr y Stryd Fawr yng Nghymru’.

Yn ôl un o weithwyr ei siop, mae’r busnes ynghyd â’r dref gyfan “uwchben eu digon”.

Mae hi’n tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif helaeth o’u siopau, gan gynnwys Book-ish, yn annibynnol, ac mae hi’n clodfori’r cydweithio rhyngddyn nhw.

“Rydym ni gyd yn cydweithio ar y stryd fawr,” meddai. “Rydym ni’n gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd. Rydym yn cynnal llwythi o ddigwyddiadau yma.

“Ac fel tref, gwnaethom ni ymgyrchu i rwystro tafarn leol rhag cael ei phrynu gan fusnes cenedlaethol.”

Cymuned

Perchennog siop ddillad Cw Cw Boutique yw Caroline Thomas, ac mae’n adleisio sylwadau’r gwerthwr llyfrau trwy ddweud bod siopau yn “cefnogi ei gilydd”.

Mae’n tynnu sylw at ddigwyddiadau mae’r busnesau yn eu cynnal ar y cyd, ac yn canmol egni’r gweithwyr yno.

“Mae yna lawer o frwdfrydedd yng Nghrughywel tros gadw siopau yn annibynnol, a chadw’r ymdeimlad cymunedol,” meddai.

“Roedd sôn am ddod ag archfarchnad yma, a gallai hynny fod wedi chwalu sawl busnes teuluol. Dw i’n credu bod pobol leol yn gefnogol iawn o’r stryd fawr yma, ac o’i chadw fel y mae.

“Mae yna ymdeimlad cymunedol hyfryd yma. Dydych chi ddim yn gweld hynna cymaint y dyddiau yma.”

Problem ar y gorwel?

Yn sgil y wobr, mae disgwyl bydd rhagor o bobol yn ymweld â’r dref.

Er bod y Cynghorydd Sir yn croesawu hynny, mae’n pryderu am allu Crughywel i ymdopi, ac yn nodi bod angen i’r Cyngor fynd i’r afael â hynny.

“Yn amlwg, mi fyddai rhagor o ymwelwyr o fudd i fusnesau yma,” meddai John Morris. “Er hynny, mae gennym ni broblemau isadeiledd.

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau rhagor o lefydd parcio i geir. Mae hynny yn broblem yng Nghrughywel … Ond bydden ni’n croesawu rhagor o bobol.”

Mae’r gweithwyr siop ar y llaw arall yn hollol bositif am gael mwy o brysurdeb ar y stryd fawr, ac yn dadlau bod eu tref eisoes yn ymdopi gyda niferoedd uchel o ymwelwyr.

“Mae llawer o bobol yn dod yma beth bynnag – ar rai adegau o’r flwyddyn – oherwydd Gŵyl [gerddorol] y Dyn Gwyrdd, yr ŵyl lenyddol, a’r ŵyl gerdded,” meddai Caroline Thomas.

“Felly rydym yn profi hynna yn barod. Ac mae’r dref i weld yn ymdopi â hynna.”