Bydd gwylnos yn cael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan dros y penwythnos er mwyn cofio am ddynes a fu farw wedi ymosodiad yn y dref.

Bu farw Katarzyna ‘Kasia’ Elzbieta Paszek, 39, o’i hanafiadau yn yr ysbyty wedi’r digwyddiad ar Stryd y Bont nos Iau diwethaf (Tachwedd 8).

Bydd yr wylnos er cof amdani’n cael ei chynnal ar Sgwâr Harffordd ynghanol tref Llanbed am 5yh ddydd Sadwrn (Tachwedd 17).

Mae hysbyseb am y digwyddiad yn nodi ei fod yn gyfle i “dalu teyrnged i Kasia, i gofio am ei bywyd, ac i ddangos cefnogaeth i’w phlant a’i theulu agos.”

Mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod “o leiaf 100” o fenywod wedi cael eu lladd gan ddynion ers diwedd mis Medi eleni.

Un dyn yn y ddalfa

Mae un dyn, 40, yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad, tra bo dyn arall, 27, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd dau ddyn arall – 31 a 37 oed – eu harestio’n wreiddiol hefyd, ond mae’r heddlu’n dweud na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn eu herbyn.

Fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn yr iaith Bwyleg ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul yn gofyn am wybodaeth.