Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad mewn eiddo yn Llanelli.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Teras Coleshill am tua 7yb ddydd Sul (Tachwedd 11).

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw’n awyddus i holi dyn o’r enw Paul Kristoffer Warnes, a all fod â gwybodaeth a fydd o gymorth i’r ymchwiliad.