Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb i’r cytundeb drafft Brexit trwy ddweud bod rhaid “ystyried y manylion”.

Daw hyn yn dilyn sgwrs a gafodd Carwyn Jones â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May, neithiwr (Tachwedd 14) lle gwnaethon nhw drafod manylion y cytundeb sydd wedi’i ffurfio rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y sgwrs ei chynnal yn fuan wedi cyfarfod y Cabinet, lle llwyddodd Theresa May i ennill cefnogaeth ei gweinidogion.

Wrth siarad â’r BBC ddoe, fe fynegodd Carwyn Jones siom na chafodd y cytundeb drafft ei rannu â’r llywodraethau datganoledig ar yr un pryd â’r Cabinet.

Ond er nad yw wedi mynegi ei safbwynt ar y cytundeb drafft ei hun eto, dywedodd mewn datganiad arall ei fod wedi bod yn “gyson a chlir” â Theresa May ynglŷn â’r angen am “fynediad llawn a dilyffethair” i’r farchnad sengl a “chyfranogiad mewn marchnad tollau”.

https://twitter.com/fmwales/status/1062836913877475328

Pethau’n poethi

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Theresa May annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw, drannoeth y cyfarfod tyngedfennol â’i Chabinet.

Mae disgwyl iddi wynebu frwydr anoddach yn y Senedd, wrth i nifer o aelodau o fewn ei phlaid ei hun – sydd ar ddwy ochr y ddadl Brexit – ei chyhuddo o gael cytundeb gwael.

Yn dilyn cyhoeddi’r cytundeb 585 o dudalennau, mae adroddiadau yn awgrymu y gall her i’w harweinyddiaeth fod ar y gweill.

Mae’n debyg bod Jacob Rees-Mogg, cadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, wedi ysgrifennu at ei gyd-aelodau Ceidwadol yn eu hannog i wrthwynebu’r cytundeb.

Mae suon hefyd fod y nifer o aelodau sydd wedi cyflwyno llythyron o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog wedi cynyddu at yn agos i 48 – y rhif sydd ei angen er mwyn cynnal cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth.

Mae’r llythyron hynny wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor 1922, sy’n cynrychioli’r Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd ar y meinciau cefn.