Mae Aelod Cynulliad Llafur tros Ganol Caerdydd, Jenny Rathbone wedi ymddiheuro am ei sylwadau’n beirniadu’r Iddewon.

Mewn recordiad, dywed fod ymddygiad Israel “yn gyrru pobol i fod yn wrthwynebus tuag at y gymuned Iddewig”, gan fynd mor bell ag awgrymu bod troseddau gwrth-Semitaidd “ym mhennau” yr Iddewon yn unig.

Roedd hi’n ymateb i gamau sydd wedi’u cymryd i dynhau camau diogelwch mewn synagog yng Nghaerdydd.

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar eu bod yn rhai “ffwrdd-â-hi” ac “anwybodus”.

‘Ansensitif’

Mewn datganiad, dywed Jenny Rathbone fod ei sylwadau’n “ansensitif”, gan ymddiheuro am wfftio pryderon y gymuned Iddewig.

“Rwy’n derbyn bod y sylwadau wnes i’r llynedd yn ansensitif ac wedi fy agor i gyhuddiadau o anoddefgarwch,” meddai.

“Rwy bob amser wedi gwerthfawrogi’r berthynas dda rhyngof fi a fy nghymuned Iddewig leol, ac rwy’n ymddiheuro am ypsetio unrhyw etholwyr a’r gymuned Iddewig ehangach yn sgil fy sylwadau.

“Rwy’n cyfarfod ag un o fy rabïaid lleol yn ddiweddarach heddiw i ymddiheuro’n uniongyrchol.”

Dywed ei bod yn cydnabod na ddylid wfftio pryderon Iddewon yn dilyn sawl ymosodiad diweddar ar Iddewon, gan gynnwys yr un ar synagog yn Pittsburgh.

“Doedd dim bwriad gen i wneud hynny ac mae’n flin iawn gen i fy mod i wedi gwneud hynny,” meddai.

“Dydy hi ddim yn dderbyniol chwaith awgrymu fod y gymuned Iddewig yn gyfrifol am weithredoedd llywodraeth Israel.”