Mae mudiad iaith wedi croesawu awgrym gan Weinidog y Gymraeg na fydd Deddf Iaith newydd yn cael ei chyflwyno tan ar ôl yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2021.

Wrth siarad gerbron y pwyllgor diwylliant heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 14), dywedodd Eluned Morgan mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ddeddf fod “popeth lan yr awyr achos Brexit”.

Er hyn, mynnodd y Gweinidog ei bod yn “bendant” yn fwriad i gyflwyno deddf newydd, a’i bod hi’n anelu at ei chyflwyno erbyn mis Ebrill 2020.

Cafodd cynlluniau ar gyfer Deddf Iaith newydd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru y llynedd, ac mae’n cynnwys diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg a sefydlu comisiwn i hybu’r iaith yn ei lle.

Diddymu “ddim yn gwneud synnwyr”

“Mae’n galonogol bod y Gweinidog yn codi amheuaeth a fydd y Bil yn digwydd ai peidio,” meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae model o Gomisiynydd wedi ennill ei blwydd yn rhyngwladol fel ffordd o ddiogelu ieithoedd eraill, ac yng Nghymru mewn sectorau gwahanol gyda Chomisiynydd Plant sy’n llwyddo.

“Dydy diddymu’r model ddim yn gwneud synnwyr.”