Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ddynes a fu farw yn dilyn damwain ar yr M4 dros y penwythnos (dydd Sul, Tachwedd 11).

Roedd Susan Elizabeth Curtis yn 50 oed ac yn dod o ardal St Thomas, Abertawe.

Bu farw ar ôl i’w char lithro oddi ar y ffordd rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 36 (Sarn) ar ôl iddi golli rheolaeth arno gan daro bariau yng nghanol y draffordd.

Wrth dalu teyrnged iddi, mae ei theulu’n ei disgrifio yn fam “gariadus a charedig”, a oedd y “barod i wneud unrhyw beth dros eraill”.

“Roedd hi’n hynod o gryf ac annibynnol,” meddai’r teulu.” Allwn ni ddim cychwyn disgrifio’r bwlch y mae hi’n gadael ar ei hôl, nid yn unig ym mywydau ei theulu ond ym mywydau pob un oedd yn ei nabod.

“Fe fyddwn ni’n dy garu ac yn dy golli di wastad.”