Mae dyn 19 oed, sydd heb ei enwi, wedi ei arestio am gael ei ddal yn gyrru ‘ambiwlans ffug’ o gwmpas pentref Penclawdd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 12).

Roedd y gyrrwr wedi ei wahardd rhag dreifio cyn hynny, a doedd ganddo ddim yswiriant i’w enw.
Postiodd Heddlu De Cymru lun o’r “ambiwlans ffug” honedig ar Twitter gan ddatgan nad cerbyd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ydoedd.
Yn ôl llefarydd Heddlu De Cymru, roedd y cerbyd wedi cael ei dynnu oddi ar y ffordd a bod “ymholiadau i’r mater yn parhau”.