Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod twf cyflogaeth Cymru yn uwch na gweddill gwledydd Prydain.

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn aros ar 3.8% tra bod y cyfartaledd ar 4.1%.

Roedd 18,000 yn fwy o bobol mewn gwaith i gymharu â rhwng Ebrill a Mehefin – sy’n golygu bod cynnydd o 0.8%.

I gymharu â’r llynedd, roedd 59,000 o bobol yn cael eu cyflogi ar yr un cyfnod. Felly mae cynnydd o 2.5%, sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar draws gwledydd Prydaion o 0.5%.

Mae’n “glir” bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn creu amodau ar gyfer tŵf economaidd a chreu swyddi yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Mae llywodraeth Prydain wedi llwyddo i greu hyder yn economi Cymru sydd wedi hwyluso creu swyddi a ffyniant,” meddai.