Mae Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cyhoeddi canllaw seibiant i bobol sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.

Bwriad yr adroddiad gan Helena Herklots CBE yw i roi gwybodaeth amrywiol am gael seibiant, opsiynau seibiant newydd ac amgen, a hawliau sydd gan bobol sydd wedi’u heffeithio gan dementia o dan deddfwriaeth Cymru.

Mae’r canllaw ‘Ailfeddwl am Seibiant ar gyfer Pobol a Effeithir gan Dementia’ yn nodi nad oedd gofalwyr a phobl sy’n byw a dementia yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael.

“Seibiant yn hanfodol”

Mae “seibiant yn hanfodol” i ofalwyr a pobol sy’n byw a dementia,  meddai Helena Herklots.

Er hynny, mae hi’n ychwanegu nad yw “pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia’n ymwybodol o’r gwahanol fathau o seibiant sydd ar gael iddyn nhw o bosib.”

“Bydd gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia ledled Cymru’n gallu defnyddio’r wybodaeth yn y canllaw i’w helpu i ddod o hyd i opsiynau seibiant sy’n addas i’w hanghenion, cynnig mwy o hyblygrwydd a darparu profiad positif iddyn nhw a’u hanwyliaid.”