Mae Cyngor Ynys Môn yn gofyn am farn trigolion y sir wrth iddyn nhw wynebu £7m o fwlch yn yr arian y bydd gandfo i’w wario yn 2018/19.

Cafodd ymgynghoriad ar gyllideb y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf ei lansio ddoe (Tachwedd 12), ac mae’n cynnwys toriadau i wasanaethau cyhoeddus, a rhwng 5% a 10% o gynnydd yn y dreth gyngor.

Daw’r ymgais diweddaraf hon i arbed arian wrth i’r cyngor wynebu lleihad o 1% yn y grant y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Dywed y cyngor ei fod yn gobeithio gwneud arbedion o tua £2.65m.

Cynlluniau “amhoblogaidd”

“Fel yn achos pob awdurdod lleol yng Nghymru, mae’n sefyllfa ariannol ni yn anodd dros ben – does dim dianc rhag hynny,” meddai’r Cynghorydd Robin Williams, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r arian ychwanegol a gawsant gan Lywodraeth Prydain yn ddiweddar i awdurdodau lleol yng Nghymru, fel nad ydi trethdalwyr yn derbyn y baich o gynnydd sylweddol yn y dreth gyngor.

“Mi fydd llawer o’r hyn sydd yn cael ei gynnig yn amhoblogaidd, ond byddwn yn annog pobol Môn i ddweud eu dweud er mwyn ein helpu i lunio Cyllideb bwyllgog a chytbwys.”