Mae pobol sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael eu hannog i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw eleni.

Mae ffigyrau ar gyfer y llynedd yn dangos mai dim ond hanner y bobol sy’n gymwys am frechiad ffliw am ddim a fanteisiodd ar y cynnig.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd fel diabetes, clefyd y galon neu broblemau ar yr iau neu’r arennau, o dan berygl o gael y ffliw.

Maen nhw hefyd yn dweud bod pobol sydd â phroblemau anadlu saith waith yn fwy tebygol o gael y firws.

‘Manteisiwch ar y cynnig’

“Os oes gennych gyflwr hirdymor neu gyflwr iechyd cronig, gall y ffliw effeithio arnoch chi yn fwy na phobol eraill,” meddai’r Prif Swyddog Nyrsio ar gyfer Cymru, Jean White.

“Mae amddiffyniad ar gael, a’r brechlyn ffliw blynyddol yw’r ffordd orau i amddiffyn eich hun rhag dal y ffliw, a allai wneud eich cyflwr yn waeth neu arwain at gymhlethdodau peryglus eraill.

“Peidiwch â chymryd unrhyw risg – gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich brechlyn eleni.”