Mae’r heddlu wedi arestio pedwar dyn yn dilyn ymosodiad yn Llanbedr Pont Steffan sydd wedi gadael dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r dref am oddeutu 6 o’r gloch nos Iau (Tachwedd 8). Mae pedwar o ddynion Pwylaidd yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

“Hoffem glywed yn benodol gan aelodau Pwylaidd o’n cymuned allai fod yn adnabod yr unigolion sydd ynghlwm, ac a all fod â gwybodaeth berthnasol,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Anthony Evans.

Fe bwysleisiodd nad yw’r heddlu’n chwilio am neb arall mewn perthynas â’r digwyddiad.