Mae dynes aeth yn sownd yn ei char yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 fore heddiw (Tachwedd 11) wedi marw.

Llithrodd ei char, Renault Clio, oddi ar y ffordd rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 36 (Sarn), a chollodd hi reolaeth arno gan daro bariau yng nghanol y draffordd am oddeutu 7.40yb.

Bu farw yn y fan a’r lle.

Mae disgwyl i’r draffordd fod ynghau tan y prynhawn yma, ac mae rhybudd i deithwyr osgoi’r ardal.