Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn ym Mhenarth ddydd Sadwrn (Tachwedd 10).
Cawson nhw eu galw i’r traeth ger y pier yn dilyn adroddiadau bod dyn yn gorwedd yn anymwybodol.
Fe fu farw yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu’n ceisio ei adnabod, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’w farwolaeth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.