Mae dynes yn sownd yn ei char yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Tarodd ei char i mewn i fariau yng nghanol y draffordd rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a 36 (Sarn).

Mae rhan o’r draffordd ynghau am y tro wrth i’r gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad, ac mae disgwyl iddi fod ynghau tan y prynhawn yma (dydd Sul, Tachwedd 11).

Mae rhybudd i deithwyr osgoi’r ardal am y tro.