Mae Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ynghau dros y penwythnos oherwydd salwch staff.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, does ganddyn nhw ddim meddygon gradd ymgynghorol i allu cynnal yr uned yn ddiogel, ond bydd rhai gwasanaethau ar gael yn y Ganolfan Gofal Brys, gan gynnwys triniaeth ar gyfer mân anafiadau.
Mae plant sydd angen gofal gan staff pediatrig arbenigol yn cael eu hanfon i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Mae rhieni wedi’u cynghori i ddeialu 999 ar gyfer achosion brys, neu 111 ar gyfer achosion llai difrifol er mwyn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf perthnasol.
Mae disgwyl i’r uned fod ar agor ddydd Llun (Tachwedd 12) rhwng 10yb a 6yh fel arfer, lle bydd modd darparu profion, triniaethau a gofal.
Datganiad y bwrdd iechyd

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth PACU o Ysbyty Llwynhelyg, ond hyd yn hyn nid ydym wedi llwyddo i recriwtio digon o staff meddygol pediatrig i ailddechrau’r oriau agor 12 awr,” meddai’r bwrdd iechyd.

“Rydym yn parhau i weithio gyda’n meddygon, staff clinigol eraill, arbenigwyr recriwtio, a’r CIC i geisio mynd i’r afael â’n heriau a recriwtio i’r swyddi gwag hyn.
“Rydym yn credu bod darparu gwasanaethau ysbytai pediatrig o ysbyty newydd rhwng Sancler ac Arberth, ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol cryfach a chymorth ysbytai lleol, yn cynnig yr ateb gorau a mwyaf teg i’n teuluoedd ar draws ein hardal.
“Byddai hyn hefyd yn dod â gwasanaethau pediatrig dros nos yn nes at ein cymunedau yn Sir Benfro.
“Byddwn yn gweithio gyda phobl leol yn ogystal â’n staff a phobl eraill sy’n darparu gofal a chefnogaeth i ddatblygu’r model gwasanaeth newydd hwn, wrth gynnal y gwasanaethau gorau posibl yn y cyfnod dros dro.”