Mae byrddau iechyd yn cynnig erthyliadau i ferched o Ogledd Iwerddon ers dydd Gwener (Tachwedd 9).

Daw’r penderfyniad, a gafodd ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, yn dilyn ymgynghoriad ddechrau’r flwyddyn.

Dydy Deddf Erthyliadau 1967 ddim yn berthnasol i Ogledd Iwerddon, a dim ond os yw bywyd y ferch mewn perygl neu fod perygl i’w hiechyd y mae modd iddi gael erthyliad.

Dydy treisio, camdrin rhywiol o fewn y teulu na rhesymau iechyd y babi ddim yn rheswm dros erthylu yng Ngogledd Iwerddon.

Disgwyl niferoedd isel

“Rydym ni o’r farn y dylai menywod o Ogledd Iwerddon allu cael mynediad, yng Nghymru, at wasanaethau terfynu beichiogrwydd yn yr un modd â menywod sy’n byw yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething.

“Rydym yn rhagweld mai nifer fach o fenywod o Ogledd Iwerddon fydd yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ac mae’r byrddau iechyd wedi ein sicrhau y byddant yn gallu ymdopi â’r ddarpariaeth hon o fewn yr adnoddau presennol.

“Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y sefyllfa eto ar ôl chwe mis.”

Bydd canllawiau ar ddarparu gwasanaethau erthylu yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Galw Iechyd Cymru.