Mae cynghorydd Llandrillo yn Rhos, James Lusted wedi’i benodi’n hybwr anableddau’r Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau gan arweinydd y blaid, Paul Davies, oedd wedi ymrwymo i greu’r swydd yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies.

Prif gyfrifoldeb James Lusted fydd annog pobol ag anableddau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Fe ddaeth i amlygrwydd yn sgil ei ymddangosiad mewn sawl cyfres i’r BBC ac S4C, ac yntau’n actor sydd wedi perfformio ar lwyfannau ledled gwledydd Prydain.

“Rwy wrth fy modd fod James wedi derbyn y swydd hon,” meddai Paul Davies. “Fe fydd e’n gwneud gwaith ardderchog fel hybwr anableddau cynta’r Ceidwadwyr Cymreig, gan herio diffyg cynrychiolaeth a brwydro i roi terfyn ar yr ystrydebau hynafol a negyddol mae pobol ag anableddau’n eu hwynebu yng Nghymru.

“Yn ei fywyd personol, mae e wedi dangos beth mae’n gallu ei oresgyn i gael y llwyddiant anhygoel mae e wedi’i gael, ac mae’r angerdd a’r brwdfrydedd wedi parhau wrth iddo gynrychioli pobol Conwy.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â fe er mwyn parhau â’r gwaith hwnnw.”

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd cael derbyn y swydd hon,” meddai James Lusted.

“Pan ges i fy ethol yn gynghorydd, ro’n i’n benderfynol o ddefnyddio fy llais er lles pobol ag anableddau ledled fy ward – mae’r llais hwnnw wedi’i godi bellach ar raddfa genedlaethol.

“Mae hwn yn gam positif i’r blaid, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith pwysig hwn ochr yn ochr â’n harweinydd, Paul Davies.”