Rhaid mynd ati “ar frys” i ddelio â thrafferthion yn ysbytai Amwythig a Telford, gan fod trigolion o Gymru yn “ddibynnol” ar eu gwasanaethau.

Dyna farn aelod o Gyngor Powys, y Cynghorydd Graham Breeze, sy’n cynrychioli ward Y Trallwng/Llanerchydol – tref a phentref ger y ffin â Lloegr.

Ddoe cyhoeddodd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lloegr y byddai Ymddiriedolaeth Iechyd Telford ac Amwythig yn cael eu gosod dan ‘fesurau arbennig’.

Daw’r cam yn sgil pryderon am unedau brys a mamolaeth yr ymddiriedolaeth, a dan ‘fesurau arbennig’ bydd y GIG yn ymyrryd yn fwy yn eu gwaith.

Mae Graham Breeze yn esbonio bod y sefyllfa yn “ansicr” a bod y trigolion mae ef yn cynrychioli yn aml yn defnyddio gwasanaethau’r ymddiriedolaeth tros y ffin.

“Mae pawb yn yr ardal yn pryderu’n fawr am hyn,” meddai wrth golwg360. “Ysbytai Amwythig a Telford yw’r prif ysbytai maen nhw’n defnyddio.

“Rydym yn ddibynnol ar ysbytai Amwythig a Telford. Mae yna lawer o drafod am unedau brys y ddau ysbyty. Ac mae yna lawer o ofidio yn y Trallwng am eu dyfodol.

“Mae’r ffaith eu bod mewn mesurau arbennig yn ychwanegu at y pryder yn yr ardal.

“Mae’n bwysig bod y trafferthion yn dod i ben cyn gynted ag sy’n bosib. Mae bywydau pobol yn y fantol. Rhaid gweithredu ar frys.”