Os na fydd Llywodraeth Prydain yn gallu taro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau Brexit, bydd angen cynnal etholiad cyffredinol neu ail refferendwm.

Dyna mae Prif Weinidog Cymru wedi ei ddweud heddiw mewn erthygl ganddo ar wefan NewStatesman.

Mae Carwyn Jones yn galw ar Lywodraeth Prydain “i daro bargen Brexit fydd yn diogelu swyddi a’r economi, ac i roi’r gorau i bedlera’r chwedl bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ddewis credadwy.”

Pe bai’r Llywodraeth yn methu â chytuno gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau Brexit, mi fyddai Carwyn Jones am weld etholiad cyffredinol “fel bod llywodraeth newydd, gyda mandad clir, yn gallu gyrru’r trafodaethau yn eu blaenau…

“Ond, rwy’n ddigon realistig i gydnabod nad oes unrhyw sicrwydd y bydd yna etholiad…

“Felly’r wyf yn teimlo bod yn rhaid i mi fod yn gwbl eglur, os na fydd etholiad, y bydda i a Llywodraeth Cymru eisiau rhoi ein cefnogaeth lwyr a ddiamod i’r ymgyrch tros Bleidlais y Bobol, pleidlais a fyddai yn fy marn i yn gorfod cynnwys y dewis i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.”