Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r ffordd mae cynghorau sir yn cael eu hariannu.

Bu cwynion lu am y cyllid i’r cynghorau ers i Lywodraeth Cymry gyhoeddi fis diwethaf y bydd cwtogi ar yr arian i gynghorau’r gogledd.

Mae cynghorau Môn, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd a Powys yn wynebu toriadau llymach na’r gweddill.

Mae rhai o gynghorau de Cymru wedyn am weld ychydig o gynnydd yn eu cyllidebau, yn enwedig Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion Llywodraeth Leol, mae hyn yn dangos bod y fformiwla bresennol sy’n rhannu arian i awdurdodau lleol yn “anaddas”, gan nad yw’n gallu addasu i’r gwahanol flaenoriaethau sydd gan gynghorau.

‘Angen adolygiad’

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am adolygiad ers blynyddoedd, ond yr unig beth mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yw dargyfeirio’r bai i’r cynghorau sir a sdwna yma ag acw,” meddai Mark Isherwood yn y Senedd yr wythnos hon.

“A, gyda hynny, dywed arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yng Nghymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wrtha i mai’r ymateb arferol wrth Lywodraeth Cymru yw bod y Gymdeithas wedi bod yn rhan o greu’r fformiwla. Mae hynny’n wir, ond cafodd ei chreu amser hir yn ôl, ac mae bellach yn anaddas.

“A wnewch chi, felly, wrando ar y lleisiau cynyddol o bob ochr a chychwyn ar adolygiad o’r fformiwla?”

Mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd tros Lywodraeth Leol, Alun Davies, fod y fformiwla’n cael ei hadolygu yn “flynyddol”, gydag arweinwyr y Ceidwadwyr yn rhan o’r adolygiad.