Mae gardd goffa yn cael ei hagor mewn ysgol uwchradd yng Ngheredigion yr wythnos hon er mwyn cofio am gyn-ddisgyblion a fu farw mewn ffyrdd anarferol.

Mae’r ardd o flaen adeilad newydd sbon Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, ac mae’n cynnwys cofeb ryfel sy’n coffáu cyn-ddisgyblion a fu farw yn y ddau ryfel byd.

Roedd y gofeb honno yn wreiddiol wedi’i gosod ar wal y llyfrgell yn hen Ysgol Dyffryn Teifi, a gaewyd yn 2016, ond bydd bellach yn cael cartref newydd yn yr awyr agored ar ôl cael ei hatgyweirio.

Mae’r ardd goffa hefyd yn coffáu cyn-ddisgyblion eraill fu farw dros y blynyddoedd, yn eu plith Helen Thomas o Gastellnewydd Emlyn, a fu farw mewn protest yng Nghomin Greenham yn 1989, a Miriam Briddon o ardal Ceinewydd, a gafodd ei lladd mewn damwain car yn 2014.

“Canolbwynt i’r gymuned”

“Dyw e ddim jyst yn ardd goffa gogyfer y gofeb ryfel, ond yn ardd goffa ar gyfer cyn-ddisgyblion Ysgol Dyffryn Teifi a fu farw o dan wahanol amgylchiadau,” meddai Hedd Ladd-Lewis, Pennaeth y Dyniaethau yn Ysgol Bro Teifi, wrth golwg360.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd e’n rhyw ganolbwynt i’r gymuned. Bydd ar agor yn ystod oriau ysgol ar gyfer unrhyw un sydd am ymweld, myfyrio neu jyst eistedd yna.

“Fe fydd yn rhywle ar gyfer y disgyblion hefyd.”

Bydd agoriad swyddogol yr ardd yn Ysgol Bro Teifi yfory (dydd Gwener, Tachwedd 9).