Mae sianel Sky Sports News wedi ymddiheuro am ddarlledu rhaglen lle gafodd Cymru ei bortreadu fel rhan o Loegr.

Ar nos Fercher (Tachwedd 7) cafodd eitem ei ddarlledu am fowt rhwng y paffwyr Tony Bellew ac Oleksandr Usyk – bowt a fydd yn digwydd ym Manceinion ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 10).

Ac ar un adeg yn ystod y darllediad cafodd graffeg ei ddarlledu yn dangos llun o Tony Bellew – sy’n hanu o Loegr – a map o wledydd Prydain, lle’r oedd baner Lloegr wedi’i thaenu dros pob un o’r gwledydd, yn cynnwys Cymru.

Bu ymateb chwyrn i hyn ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, yn ennyn 486 ‘like’ am ofyn, “Sky Sports News, a allwch chi esbonio hyn?”

Bellach mae’r sianel wedi ymateb ar Twitter gan ddweud,“Diolch i bawb am dynnu ein sylw at y camgymeriad wnaethon ni â’n graffeg Usyk erbyn Bellew neithiwr. Rydyn ni wedi cywiro hyn, ac fe hoffen ni ymddiheuro os ydyn ni wedi tramgwyddo unrhyw un.”