Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei wraig a honni ei bod wedi lladd ei hun.

Cafodd Lesley Potter, 66, ei darganfod yn farw yn eu cartref ar Stryd y Bryn, y Mwmbwls, ar Ebrill 7.

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys y tŷ, gwnaeth ei gŵr Derek Potter ddweud ei fod wedi ei darganfod yn hongian.

Yn wreiddiol, mi benderfynodd Heddlu De Cymru i beidio â thrin y farwolaeth fel un amheus, ond daeth tro pedol wedi i ragor o wybodaeth ddod i’r fei.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Derek Potter wedi cyfaddef iddo lofruddio’r wraig tair wythnos wedi i iddo gyflawni’r weithred. Daeth y cyfaddefiad mewn sgwrs yn y dafarn.

Clywon nhw hefyd bod unigolyn wedi cysylltu â’r heddlu ar Ebrill 28, gan ddweud: “Wnaeth hi ddim lladd ei hun, a fe laddodd hi gan ei fod wedi cael llond bol. Dyna ddywedodd e wrtha’ i.”

Cafodd Derek Potter ei arestio deuddydd yn ddiweddarach, a phlediodd yn ddieuog i’r cyhuddiadau. Bydd yn treulio isafswm o 17 blynedd dan glo.