Mae grŵp sy’n bwriadu “dad-ddofi” ardal o’r Canolbarth, wedi cael eu beirniadu’n hallt am gyflwyno ceffylau gwyllt o wlad Pwyl i gefn gwlad Cymru.

Erbyn hyn mae prosiect ‘Coetir Anian’ wedi rhyddhau chwech o geffylau Konik i’w safle 350 erw yn Bwlch Corog ger Machynlleth, a bwriad y grŵp yw y bydd y ceffylau yma yn bwyta’r gwair garw – glaswellt y gweunydd – ar yr ucheldir yno, gan alluogi i goed a phlanhigion eraill dyfu.

Ond mae Gareth Wyn Jones, ffermwr mynydd o Lanfairfechan, wedi beirniadu’r cam ac wedi cwestiynu pam nad yw merlod gwyllt Cymreig wedi’u cyflwyno yno yn eu lle.

“Maen nhw wedi dod a merlod o Wlad Pwyl i bori, tra bod merlod cynhenid i Gymru fyny’r lôn,” meddai wrth golwg360.

“Dyna be’ sydd wedi fy nghorddi i. Mae’n gywilydd. Maen nhw’n sôn eu bod nhw eisio gweithio gyda phobol leol, a gweithio gyda phobol Gymreig. Ond mae’n sarhad, a dweud y gwir. Dw i’n teimlo’n gryf iawn am hyn.”

Merlod

Merlod y Carneddau yw’r merlod delfrydol i’w cyflwyno, ym marn Gareth Wyn Jones.

Mae’r merlod gwyllt yma yn byw ar y Carneddau – casgliad o fynyddoedd yn Eryri – ac mae’r ffermwr yn dweud bod dyfodol y rhywogaeth yn y fantol.

“Rydan ni’n stryglo i gael llefydd ar gyfer rhai o’r merlod yma, ac rydan ni’n gweithio’n galed i gael cartrefi iddyn nhw,” meddai. “Dau gant ac ugain o ferlod y Carneddau sy’n sbâr yn y byd. Mi allsan nhw fod wedi cymryd deg neu bymtheg i fynd â nhw i ochrau Machynllaeth, i godi eu henw a chodi eu gwerth. Ond na, does ganddyn nhw ddim diddordeb.

“Mae pawb yng nghymdeithas merlod y Carneddau, a phawb sy’n gweithio efo ni yn agos iawn yn siomedig ofnadwy efo hynna. Mae yna griw ohonom ni sy’n gweithio’n galed.”

Dad-ddofi

Dyw Gareth Wyn Jones ddim yn rhy gefnogol o’r syniad o “ddad-ddofi” – neu rewilding yn Saesneg – sef ymgyrch i fynd â cefn gwlad yn ôl i’w ffurf hynafol.

“Maen nhw’n meddwl y gallan nhw droi eu cefnau a’i adael o, gadael llonydd iddo fo,” meddai. “Ond rhaid i ni gofio mai ni sydd ar ben y job, a ni sydd fod i edrych ar ei ôl 0.

“A dw i ddim yn teimlo ei fod yn mynd i weithio,” meddai Gareth Wyn Jones wedn. “Mi hoffwn i fod rownd mewn hanner can mlynedd pan fydd pobol yn dweud, ‘bechod eu bod nhw ddim wedi pori hwn’ – ond yr adeg honno, mi fyddwn ni wedi colli pob dim.

“Pan ydach chi’n gadael natur, weithiau mae’n mynd yn flêr.”

Ceffylau tarpan

Mae’r koniks wedi ei bridio i efelychu’r tarpan sef cyndaid hynafol y ceffyl modern.

Mewn eitem i’r BBC dywedodd Simon Ayres, o Goetir Anian, am y tarpan, eu bod yn “greaduriaid gwyllt a oedd arfer byw yn yr ardal yma…”

Mae golwg360 wedi gofyn i Coetir Anian am ymateb.