Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd yn ninas Casnewydd.

Cafodd 13 o gyrchoedd eu cynnal yn ardaloedd Alway a Llyswyry, gyda 160 o swyddogion arbenigol yn cymryd rhan.

Hyd yma mae ceir drud, dillad costus, arian, gemwaith ac offer trydanol wedi cael eu cadw gan swyddogion.

Mae awdurdodau hefyd yn credu eu bod wedi cael gafael ar gyffuriau dosbarth A, a bydd profion fforensig yn cael eu cynnal ar y deunydd yma.

Mae Heddlu Gweny yn parhau i ymchwilio.

“Trachwant”

“Daw cyrchoedd y bore yma yn sgil misoedd o waith caled i ddod o hyd i droseddwyr sy’n gweithredu o fewn Gwent,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae troseddwyr sydd ynghlwm â throseddau o’r raddfa yma, yn fygythiad i’n cymunedau.

“Dydyn nhw ddim yn poeni am bobol eraill. Trachwant am gyfoeth sy’n eu gyrru, nid egwyddorion.”