Mae uned arbenigol newydd mewn ysbyty ym Mro Morgannwg yn derbyn cyllid gwerth £30.8m gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr uned yn Ysbyty Llandochau ar gyfer cleifion sydd angen gwasanaethau adsefydlu niwrolegol ac asgwrn y cefn.

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaethau yn cael ei ddarparu yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd, ond y nod yw cwblhau’r gwaith a symud i Landochau o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y gwasanaeth newydd yn golygu bod modd i gleifion gyrraedd gwasanaethau diagnostig, cymorth a thriniaethau modern yn “haws”.

Bydd y nifer o drosglwyddiadau rhwng y ddwy safle ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn gostwng hefyd, medden nhw.

Parhau i fuddsoddi

“Eleni yw 70 mlwyddiant ein Gwasanaeth Iechyd Gwlad,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae’n wasanaeth sy’n parhau i gyflawni pethau anhygoel, er gwaethaf y pwysau a’r disgwyliad aruthrol bob diwrnod o’r flwyddyn.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth hwn i adnewyddu cyfleusterau yn gyson, darparu mwy o wasanaethau arbenigol a gwella’r gofal i’n cleifion.”