Mae prosiect tair blynedd ar y gweill gan Brifysgol Bangor a fydd yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu athrawon Addysg Grefyddol yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

A’r pwnc wedi gweld dirywiad dros y blynyddoedd diwethaf, bydd y prosiect gan yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn creu a chasglu ynghyd adnoddau dysgu a’u dosbarthu i athrawon a disgyblion.

Daw hyn wrth i nifer o athrawon deimlo nad ydyn nhw’n gymwys i ddysgu’r pwnc ar lefel TGAU a Lefel A, wedi i’r cwricwlwm newid droeon yn ddiweddar.

Bydd y prosiect hefyd yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa fel athrawon Addysg Grefyddol.

Yn ôl Dr Lucy Huskinson, arweinydd y gwaith, mae’r prosiect am ddatrys dwy broblem – sef “diffyg hyder ac arbenigaeth”, a’r “dirywiad sylweddol” yn nifer myfyrwyr y pwnc o fewn prifysgolion gwledydd Prydain.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ddigon o athrawon a darpar athrawon sydd yn teimlo’n hyderus wrth gyflwyno’r cwricwla newydd,” meddai.

“Mae’n bwysig er mwyn cwrdd â thwf mewn diddordeb yn y maes ymhlith disgyblion.”