Fe fydd Llywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr ym Merthyr Tudful heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 7) i glywed nad oes digon o feddygon i ymdopi â’r pwysau gwaith cynyddol mewn ysbytai yng Nghymru.

Fe fydd yr Athro Andrew Goddard yn ymweld ag Ysbyty Tywysog Charles a Pharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie i drafod atebion posib i’r argyfwng, gan gynnwys ymgyrch Coleg Brenhinol y Ffisegwyr i lenwi bylchau drwy gyflogi rhagor o feddygon iau.

Fe fydd yr Athro Goddard a’i ddirprwy, Dr Gareth Llewelyn, yn cyfarfod â meddygon iau, ffisegwr arbenigol a rheolwyr byrddau iechyd yn ystod eu hymweliad.

Arolwg

Mewn arolwg yn 2017-18, adroddodd 70% o feddygon dan hyfforddiant fod bylchau rota cyson, ac mae 88% ohonyn nhw’n galw am neilltuo amser ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi ymateb i’r pryderon eisoes, wrth agor canolfan academaidd gwerth £2.8m ym Merthyr Tudful, lle mae is-raddedigion yn dysgu am feddyginiaeth yn y gymuned er mwyn mynd i’r afael â diffyg cyswllt rhwng ysbytai, meddygon teulu a gofal cymdeithasol.

Fe fydd 300 o bobol broffesiynol ym maes iechyd yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar Dachwedd 8 a 9 ar gyfer diweddariad blynyddol ar y sefyllfa bresennol.

Dim digon o adnoddau

“Mae Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai dirprwy lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yng Nghymru, Dr Gareth Llewelyn.

“Mae ffisegwyr yn cydweithio ag ystod eang o dimau ar draws y Gwasanaeth Iechyd ac maen nhw i gyd yn ceisio’u gorau i ddarparu gofal ardderchog i gleifion ond yn fy mhrofiad i, mae gwasanaethau’n aml yn ddi-gyswllt a heb ddigon o adnoddau.

“Mae nifer o ysbytai’n ei chael yn anodd recriwtio a llenwi bylchau yn y rota.

“Rydym eisoes wedi galw am ragor o fuddsoddiad mewn meddyginiaeth gymunedol a dull sy’n canolbwyntio ar gleifion o safbwynt newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd, felly rwy wrth fy modd o weld fod Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn meddwl y tu allan i’r bocs.

“Bydd rhoi ystod eang o gyfleoedd newydd cyffrous i fyfyrwyr meddygol yn ystod eu hastudiaethau’n help i ddenu mwy o feddygon iau i hyfforddi a gweithio yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â hyfforddeion a meddygon arbenigol i glywed mwy am eu profiadau o fod yn feddygon yn Merthyr Tudful.”