Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobol sy’n dioddef o dementia yn cael gofal dwyieithog, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i baratoi ar y cyd rhwng Comisiynydd y Gymraeg ac Alzheimer’s Society Cymru, yn tanlinellu pwysigrwydd iaith wrth drin dementia mewn cleifion.

Dywed nad yw anghenion siaradwyr Cymraeg sy’n dioddef o dementia’n cael eu diwallu, ac nad yw polisïau cenedlaethol sy’n nodi bod gofal cyfrwng Cymraeg yn angen clinigol, yn cael eu hadlewyrchu mewn gwasanaethau ar lawr gwlad.

Gwella’r gwasanaeth

“Er gwaethaf yr ymrwymiadau sydd mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd, mae’n amlwg i mi o’r gwaith ymchwil hwn mai ystyriaeth ‘ychwanegol’ yw’r Gymraeg i ofal dementia yn aml,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

“Rydym hefyd yn cwestiynu i ba raddau mae’r targeda a osodwyd yng nghynllun ‘Mwy na Geiriau’ Llywodraeth Cymru wedi’u gweithredu.

“Os nad ydyn nhw wedi eu gweithredu, dylid cymryd camau i unioni hynny.”

Effaith dwyieithrwydd

Mae’r adroddiad yn dangos bod effaith dementia ar bobol ddwyieithog yn wahanol i’r effaith ar bobol sy’n siarad un iaith, gyda thystiolaeth yn dangos bod iaith yn gallu cynhyrfu a thawelu claf.

Mae hefyd yn dangos sut mae pobol sydd â dementia yn cael eu hasesu, a sut mae cyfrwng iaith profion diagnostig yn gallu effeithio ar ganlyniad y prawf.

“Mae canlyniadau’r gwaith ymchwil yn dangos yn glir fod methu â chynnig gwasanaethau yn yr iaith addas yn gallu arwain at oedi wrth roi diagnosis ac yn gallu cael effaith wrth gynllunio a chynnig gofal i siaradwyr Cymraeg gyda dementia,” meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr Alzheimer’s Society Cymru.