Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â gwneud addysg y Cyfnod Sylfaenol yn Ysgol Bro Pedr yn un gyfan gwbwl Gymraeg.

O dan y drefn bresennol, mae disgyblion Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu trosglwyddo o’r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 1 yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau ar wahân.

Ond byddai gweithredu penderfyniad corff llywodraethol yr ysgol, a bleidleisiodd o blaid cynnal ymgynghoriad fis Mawrth eleni, yn golygu mai dim ond addysg Gymraeg fydd yn cael ei darparu hyd at ddiwedd y Cyfnod Sylfaen.

Bydd dosbarthiadau Cymraeg a Saesneg wedyn yn parhau yng nghyfnod allweddol 2.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, os bydd cynigion yr ymgynghoriad yn cael eu cymeradwyo, y bwriad yw eu gweithredu o fis Medi 2019 ymlaen.

“Mae’n bwysig clywed barn”

“Mae’n bwysig clywed barn rhieni a phobol berthnasol eraill ar ddatblygu cyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes.

“Os aiff y penderfyniad ymlaen, mi fyddwn yn gweld mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Ragfyr 18, 2018.