Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi croesawu’n swyddogol yr Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru newydd, Nigel Adams.

Fe ddaw penodiad yr Aelod Seneddol dros Selby ac Ainsty yng ngogledd Swydd Efrog, yn dilyn ymadawiad Mims Davies.

Mi fydd Nigel Adams yn ymuno â thîm Alun Cairns yn swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol tra bydd Mims Davies yn ymgymryd â’i swydd newydd yn yr Adran Diwylliant y Cyfryngau a Chwaraeon.

Wedi’i fagu yn Selby yng ngogledd Swydd Efrog, mae Nigel Adams wedi torri’i ddannedd ysgrifenyddol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol cyn symud i Swyddfa Cymru.

Mae Nigel Adams hefyd wedi bod yn Chwip i’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.