Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio annog pobol i wario eu harian gyda busnesau yng Nghymru.

Y sector manwerthu yw’r cyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru, medden nhw, gyda bron 12,000 o siopau’n darparu 130,000 o swyddi.

Bwriad ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Consortiwm Manwerthu Cymru, yw hyrwyddo’r diwydiant fel un “deinamig” sydd hefyd yn “ddewis gyrfaol da” wrth iddo gynnig llawer o gyfleoedd am ddyrchafiad.

Bydd elfen arall o’r ymgyrch wedyn yn ystyried yr hyn mae’r diwydiant yn eu rhoi i’r gymuned o ran ffactorau economaidd a chymdeithasol.

‘Defnyddiwch nhw’

“Rwy’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r ymgyrch hon sy’n dathlu ac yn hyrwyddo gwaith da ein sector manwerthu,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Mae siopau o bob lliw a llun yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau pob dydd, ond gyda’r ffordd y mae pobol yn siopa yn newid a chystadleuaeth yn cynyddu, does dim dwywaith ei bod hi’n gyfnod anodd ar y sector.

“Y gwir plaen yw, os na wnawn ni ddathlu’r sector a gwneud defnydd da ohono, mae perygl mawr y collwn rannau pwysig ohono.”