Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl darganfod arfau rhyfel ar dir eglwys yn Llanfwrog, ger Caergybi, Ynys Môn ddydd Sadwrn (2 Tachwedd).

Cafodd yr arfau eu darganfod ar safle Eglwys Sant Mwrog yn Llanfwrog gan Adran Ordnans Ffrwydradau’r fyddin.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Nigel Harrison ei fod yn “ymddangos fel eu bod wedi bod ar y tir ers amser.”

Bydd yr eitemau yn cael archwiliad fforensig ac mae’r heddlu’n parhau gyda’u hymchwiliad i geisio darganfod  sut y daethon nhw yno.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld ymddygiad amheus yn yr ardal i gysylltu â nhw drwy https://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support gan ddyfynnu’r cyfeirnod W156507, neu drwy Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.