Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael gorchymyn i dalu £220 am wrthod talu’r ffi drwydded deledu mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw (dydd Llun, 5 Tachwedd).

Mae William Griffiths, 56 oed, o Fodorgan wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch yn galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Fe yw’r ail unigolyn i wynebu achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch. Cafodd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, ei dedfrydu mewn achos yn Aberystwyth fis diwethaf.

Mae dros 70 o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

“Hawl sylfaenol”

 Wrth siarad gerbron y llys, dywedodd William Griffiths:  “Mae rheolaeth dros ddarlledu yn rhywbeth sydd i mi yn hawl sylfaenol i unrhyw wlad. Mae hyn yn bwysig o ran sut da ni’n gweld y byd ag am i’r byd ein gweld ni. Hefyd mae’n hanfodol er mwyn gwarchod darlledu yn y Gymraeg.

“Yn ogystal mae datganoli darlledu yn bwysig o ran democratiaeth yng Nghymru. Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf er enghraifft, roedd y newyddion Llundeinig yn ein boddi gyda Theresa May yn dweud hyn am iechyd, Corbyn yn dweud y llall am addysg. Mae hyn i gyd yn amherthnasol i ni yng Nghymru. Yr un fath gyda refferendwm Brexit. Ni chafwyd trafodaeth ar lawr gwlad Cymru. Beth bynnag fo’ch barn ar Brexit a pha bynnag liw gwleidyddol ydych, mae hybu democratiaeth yn hollbwysig.

“Rhaid gofyn y cwestiwn: pa fath o wlad sy’n mynnu rheolaeth dros ddarlledu mewn gwlad arall? Mae’r ymgyrch yma yn hollbwysig i gael gwell dyfodol i bobol Cymru.”

Roedd y bardd a’r canwr Geraint Lovgreen wedi annerch rali o flaen y llys cyn y gwrandawiad.