Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething yn rhybuddio ei bod yn bwysig paratoi a chynllunio ymlaen llaw er mwyn aros yn iach yn ystod misoedd y gaeaf.

Wrth lansio ymgyrch Dewis Doeth heddiw (dydd Llun, Tachwedd 5), mae Vaughan Gething yn rhybuddio bod cyfnod heriol ar y gorwel i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl fferyllwyr cymunedol yng Nghymru, wrth iddyn nhw allu cynnig cyngor, hyrwyddo negeseuon allweddol am iechyd a helpu pobol â chyflyrau meddygol cymhleth i lenwi cynllun iechyd personol.

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i gleifion yn agos at adref ac yn ystod oriau min nos ac ar benwythnosau.

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael i gleifion ym mhob fferyllfa yn ystod y gaeaf.

Bydd Age Cymru a chynghorau lleol yn gallu dosbarthu’r wybodaeth hefyd.

Arbed amser a sicrhau gofal cyflym

“Bydd dewis y gwasanaeth a’r cyngor iechyd cywir yn arbed amser ichi ac yn sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n cael y gofal iawn yn gyflym,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio’n galed y gaeaf hwn – a gallwn ni i gyd wneud ein rhan drwy ddewis yn ddoeth.

“Bydd fferyllwyr cymunedol ledled Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth roi cyngor i chi a’ch teulu ynglŷn ag annwyd a pheswch a nifer o anhwylderau cyffredin eraill y gaeaf hwn.”

“Drwy wneud y dewis cywir, rydych chi nid yn unig yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn cael y gofal iawn yn gyflym – rydych chi hefyd yn helpu staff y GIG a fydd yn gweithio’n galed y gaeaf hwn,” meddai Prif Weithredwr GIG Cymru Andrew Goodall.

“Mewn argyfwng difrifol lle mae bywyd mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys. Ond, fel arall, cofiwch ystyried y dewisiadau amrywiol eraill sydd ar gael.”

Cydweithio

“Mae Dewis Doeth yn esiampl wych o sut mae fferyllfeydd cymunedol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a chydweithwyr eraill ym maes gofal sylfaenol i wella iechyd pobl Cymru,” meddai Cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Mark Griffiths.

“Does dim rhaid ichi wneud apwyntiad – gallwch fynd draw pryd bynnag sy’n gyfleus i chi a byddwch bob amser yn cael cyngor gan fferyllydd cymwysedig mewn lle preifat yn y fferyllfa. Dyna pam mai Dewis Doeth yw’r dewis gorau i bobl y gaeaf hwn.”