Mae gyrrwr beic modur yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrhymni neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 3).

Roedd y beic modur Honda mewn gwrthdrawiad â cherbyd arall ar Ffordd Caeglas am 5.04yh, ac fe gafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl iddyn nhw gau’r ffordd am ryw bedair awr er mwyn cynnal ymchwiliad.